Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

WESP 32
Ymateb gan : Menter Bro Ogwr
Response from : Menter Bro Ogwr

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Teimlaf ei bod yn bwysig cael Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg o fewn pob Awdurdod oherwydd mae cael cynllun o'r fath yn sicrhau atebolrwydd gan yr Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ein plant.

 

Roeddwn i wedi croesawu'r ffaith bod cael cynllun o'r fath o fewn yr Awdurdod yn nawr yn statudol a dyna le y dylai fe wedi bod o'r cychwyn.

 

Nawr ei fod yn ddyletswydd statudol ar gyfer pob Awdurdod, rwy'n edrych ymlaen at weld sut y mae hyn yn mynd i ddatblygu o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont oherwydd bod cael cynllun o'r fath yn cyfrannu at Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru, ond nid wyf yn teimlo ei fod yn cyflawni digon ar hyn o bryd.

 

Rwyf hefyd yn credu ein bod ni’n ceisio ein gorau glas i ddangos y galw am Addysg Gymraeg o fewn Pen-y-bont ar Ogwr, ond bod hyn yn profi’n ddiffrwyth yn yr ymateb o gynyddu ein hysgolion yn y Fwrdeistref.  Pam mae gennym ni gynllun o'r fath i ddangos y galw os na ellir ei roi ar waith?  Pam mae angen i ni ddangos y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac nid ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg?

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Rwy’n credu bod cael y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ofynnol, ond mae angen ei wella drwy gael ymrwymiad uwch swyddogion o fewn yr Awdurdod Lleol a'r ymrwymiad gan aelodau gwleidyddol.  Credaf y byddai hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith hefyd o fudd i'r Awdurdodau Lleol.

 

Er fy mod yn gwerthfawrogi bod cyllid yn dynn a’r effeithiau y mae hyn yn cael ar yr Awdurdodau Lleol, mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer gweithrediad effeithiol y cynllun a thwf o fewn Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Ar hyn o bryd nid wyf yn credu bod Cyngor Pen-y-bont yn darparu darpariaethau i ateb y galw cynyddol.  Mae hyn wedi bod yn wir am nifer o flynyddoedd.  Mae hon yn frwydr barhaus i ni.  Fodd bynnag, teimlaf gyda’r awgrymiadau uchod, gall hyn newid.


Os yw'r galw wedi cael ei brofi, yna dylai'r ddarpariaeth ddilyn.
 

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Mwy o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na dim ond cymeradwyo ein cynlluniau. Rwy’n credu er ei bod yn bwysig bod y cynlluniau yn cael eu hysgrifennu mewn perthynas â'n Bwrdeistref Sirol mae lle hefyd i Lywodraeth Cymru ddarparu targedau i bob Awdurdod Lleol.  Gellir defnyddio hyn drwy edrych ar ein hystadegau i osod llinell sylfaen ar gyfer targedau o'r fath.

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Nid wyf yn teimlo bod y cynlluniau yn cael eu monitro digon ac er canlyniad does dim effaith wedi cael ei wneud.  Dydw i ddim yn credu bod darpariaethau o'r fath wedi cynyddu ym Mwrdeistref Pen-y-bont am flynyddoedd ar wahân i dderbyn ein hysgol Gyfun Gymraeg gyntaf yn 2008 a gymerodd amser hir i’w gael yn y lle cyntaf.

 

pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg angen fod yn fwy cadarn.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy ymglymedig a chadarn â'r cynlluniau.


Mae angen i'r cynlluniau fod yn dargedau priodol sy'n adlewyrchiad cywir o'u cymunedau.  Mae angen dangos cynnydd mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg e.e. ar gyfer pob ysgol sydd angen mae angen ystyriaeth o'r ddwy ddarpariaeth, addysg Gymraeg a Saesneg, hyd yn oed os taw safle ar gyfer y ddwy ddarpariaeth ydyw.


Mae angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o fanteision addysg cyfrwng Cymraeg a bod yn ymroddedig i'w datblygiadau.


 

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Nid wyf yn credu bod Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Bydd newidiadau i bolisi cludiant yr ysgol yn cael effaith andwyol ar addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae angen i hyn gael ei ystyried wrth weithredu polisïau.

Mae angen gwneud gwaith i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i rieni, esbonio’r buddiannau ac ateb eu cwestiynau.

Pan fydd ystadau newydd yn cael eu hadeiladu mae angen rhoi ystyriaeth i ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Dylwn ni ddim gorfod dangos y galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg, dylid ei ddarparu, hyd yn oed os yw safle o’r fath yn agored ar gyfer darpariaeth Cymraeg a Saesneg ar yr un safle.

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Yn fy marn i, nid wyf yn credu bod canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl o fewn Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?


 

 Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Newid o ymglymiad Llywodraeth Cymru gyda'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Rwy’n credu pe bai Llywodraeth Cymru yn cael fwy o ymglymiad ac yn  gosod targedau priodol ar gyfer pob Bwrdeistref, sydd yn adlewyrchiad cywir o'u hardaloedd ac sy’n ymglymu gyda'i datblygiadau, yna byddai hyn yn arwain at newid cadarnhaol i Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r cynllun yma.

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?